Sylw DBCC-8165
Rwy’n gwbl gefnogol o’r ymgyrch i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ac rwyf i wedi dysgu Cymraeg fy hun ers symud i Gymru o Loegr. Fodd bynnag, mae Cymru yn dal i fod yn genedl ddwyieithog, â llawer o drigolion yn uniaith Saesneg. Mae’n arferol iawn i wledydd dwyieithog neu dairieithog fod ag enwau lleoedd ym mhob iaith, e.e., adnabyddir Genefa (estronair Cymraeg) fel Geneve, Genf a Ginevra yn y Ffrangeg, yr Almaeneg a’r Eidaleg yn eu trefn. Wrth gwrs, wrth gyfeirio at y ddinas hon, rydych chi’n defnyddio’r enw sydd ganddi ym mha bynnag iaith yr ydych chi’n ei siarad, a dylai’r un fod yn wir am enwau lleoedd Cymru. Er fy mod i’n cefnogi dull Cymraeg yn gyntaf, rwy’n credu bod polisi uniaith Gymraeg yn eithrio cyfran sylweddol nad ydynt yn siarad Cymraeg, gan wneud iddynt deimlo o bosibl bod llai o groeso iddynt yn eu mamwlad. Dylai fod cyfieithiad Saesneg swyddogol er budd siaradwyr uniaith Saesneg yng Nghymru yn ogystal â’r rhai y tu allan i Gymru (fel cyfryngau'r DU gyfan) sy’n debygol o fod yn fwy cyfarwydd â’r enwau lleoedd Saesneg. Nid oes unrhyw bwynt dweud wrth rywun o Norfolk bod Jo Bloggs wedi cael ei ethol yn Sir Gâr neu yng Nghasnewydd, pan fyddant yn llawer mwy tebygol o wybod lle mae Carmarthenshire neu Newport.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.