Sylw DBCC-8168
Rwy’n cymeradwyo’r Comisiwn am wneud y defnydd mwyaf posibl o’r Gymraeg mewn enwau etholaethau, ac rwy’n credu bod yr enwau canlynol yn dderbyniol heb newid
1. Bangor Conwy Môn
2. Clwyd
3. Fflint Wrecsam
4. Gwynedd Maldwyn
5. Ceredigion Penfro
6. Sir Gâr
9. Afan Ogwr Rhondda
10. Merthyr Cynon Taf
16. Pen-y-bont Bro Morgannwg
Fodd bynnag, mae gen i rai sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer y cynigion canlynol:
7. Gorllewin Abertawe Gŵyr (Swansea West Gower)
Rwy’n credu y gallai cynnwys West fod yn ddryslyd gan nad oes unrhyw etholaeth East gyfatebol - ac a yw West yn cyfeirio at Swansea West neu West Gower ??. O gofio bod Gŵyr wedi ei gynnwys yn llawn o fewn Dinas a Sir Abertawe, a bod yr etholaeth newydd eisoes yn cwmpasu dros 85% o Ddinas a Sir Abertawe, rwy’n cynnig y dylid symleiddio enw’r etholaeth hon i ‘Abertawe’.
8. De Powys Tawe Nedd (South Powys Tawe Neath)
Mae hwn yn lletchwith yn y ddwy iaith - rwy’n awgrymu symleiddio i ‘Brycheiniog Tawe Nedd’.
11. Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
O gofio bod Rhymni yn rhan o Fwrdeistref Sirol Caerffili a bod Caerffili yn rhan o Gwm Rhymni, nid wyf i’n gweld yr angen i gynnwys Caerffili a Rhymni yn enw’r etholaeth. Rwy’n cynnig symleiddio i ‘Caerffili Blaenau Gwent’.
12. Mynwy Torfaen
Mae Mynwy yn cyfeirio at dref Mynwy ac afon Mynwy yn unig, ac nid yw’n cynrychioli Sir Fynwy. Rwy’n cynnig ei enwi’n ‘Torfaen Sir Fynwy’ neu’n ‘Dwyrain Gwent (East Gwent)’
13. Casnewydd Islwyn
Er bod yr enw hwn yn iawn, nid wyf i’n credu bod angen ychwanegu Islwyn, a byddai’n well symleiddio’r etholaeth i ‘Casnewydd’
14. De-ddwyrain Caerdydd Penarth (Cardiff South-east Penarth)
Mae hwn yn enw lletchwith iawn yn y ddwy iaith. Nid wyf i’n credu bod angen ychwanegu Penarth ac rwy’n awgrymu symleiddio’r enw i ‘Deheuol Caerdydd (Southern Cardiff)’.
15. Gogledd-orllewin Caerdydd (Cardiff North-west)
Mae hwn yn enw lletchwith yn y ddwy iaith ac rwy’n awgrymu symleiddio i ‘Gogleddol Caerdydd (Northern Cardiff)’.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.