Sylw DBCC-8169
Yr wyf yn llwyr gefnogi argymhellion a chyfeiriad y Comisiwn i fabwysiadu enwau uniaith Gymraeg ar gyfer mwyafrif yr etholaethau arfaethedig. Mae'r Gymraeg yn drysor cenedlaethol sy'n perthyn i bob un ohonom, ac mae mabwysiadu enwau uniaith Gymraeg yn dangos parch at ein treftadaeth gyffredin ac yn datgan yn glir mai iaith fyw a pherthnasol yw'r Gymraeg. Mae'r enwau a gynigir yn gwbl ddealladwy i siaradwyr nad ydynt yn Gymry Cymraeg, heb fod angen cyfieithiadau Saesneg. Felly, mae'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu ysbryd cynhwysol a chenedlaetholdeb cadarnhaol sy'n uno pobl Cymru.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.