Sylw DBCC-8176
Rwy’n ysgrifennu i wrthwynebu i enw uniaith Gymraeg (Gwynedd Maldwyn) ar gyfer yr etholaeth hon. Mae Cymru yn troi’n llawer mwy dadunol ac ni fydd hyn yn helpu. Rwy’n gweld hefyd eich bod wedi gwneud dim am yr etholaeth hurt o fawr a gynigir ar gyfer Sir Drefaldwyn. Mae’r “uwch” etholaeth honedig hon yn cwmpasu tua 25% o Gymru. Mae’n llawer rhy fawr a lletchwith yn ymestyn o leoliad i’r de o Langurig i Aberdaron ac ar draws i’r ffin â Lloegr. Anhygoel. Sut allwch chi gyfiawnhau hyn? Neu yn hytrach, sut all Llywodraeth Cymru gyfiawnhau hyn? Nid yw cysylltiadau trafnidiaeth yn gweithio ar gyfer yr etholaeth arfaethedig ac mae’n amheus iawn bod yr hanes cyffredin neu ffactorau economaidd-gymdeithasol yn cynnig mwy o gydlyniad. Nid oes angen etholaethau mwy arnom ni. Mae Cymru yn wlad fach ac mae angen i ni gadw’r cysylltiad rhwng ein cynrychiolydd yn y Senedd a ni, y pleidleiswyr. Mae angen i Lywodraeth Cymru wrando ac ailfeddwl y syniad o gynyddu nifer yr aelodau i 96 a newid i system bleidleisio gaeedig.
Gyda llaw, yn y ffurflen ymgynghori hon a’r MATH O YMATEBWR, pam ddylai sylwadau gan "Arglwydd o Dŷ’r Arglwyddi” fod yn bwysicach nag unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n byw mewn etholaeth ac yn pleidleisio?
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.