Sylw DBCC-8198
Hoffwn nodi fy ngwrthwynebiad i ddefnyddio enwau etholaeth uniaith Gymraeg yn etholiadau’r Senedd.
Fel un o’r mwyafrif llethol o bleidleiswyr di-Gymraeg, rwy’n teimlo wedi fy nifreinio’n gynyddol yng Nghymru gan erydiad parhaus y Saesneg, iaith sy’n cael ei siarad gan BAWB yng Nghymru!
Mae hon i fod yn wlad ddwyieithog ond mae’n ymddangos ein bod ni’n anghofio hyn â’r brif iaith a ddefnyddir yn cael ei dileu. Ailenwi Snowdon a’r Brecon Beacons yw dwy o’r enghreifftiau mwy amlwg.
Ni fydd yr enwau etholaeth newydd hyn yn cael eu deall gan lawer o etholwyr, dim ond gan leiafrif o siaradwyr Cymraeg. Mae’r rhan sinigaidd ohonof i’n meddwl tybed a yw hynny’n fwriadol i ddylanwadu ar ganran y pleidleiswyr gan fod cefnogwyr Plaid Cymru yn debygol o gael eu hysgogi gan yr ailenwi hwn.
Rwy’n gobeithio y gwnaiff y comisiwn ffiniau ailystyried a chael etholaethau dwyieithog oherwydd yn oes Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant rwy’n dechrau teimlo wedi fy ALLGAU yn wirioneddol yng Nghymru.
Yn gywir
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.