Sylw DBCC-8203
Hoffwn wrthwynebu’n gryf eich cynnig presennol o enwau uniaith Gymraeg ar gyfer ffiniau’r Senedd.
Rwy’n Gymro Saesneg ei iaith, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwahaniaethu yn fy erbyn â llu o bolisïau fel peidio â chyflogi pobl nad ydynt yn gallu defnyddio ymadroddion Cymraeg sylfaenol. Mae hyn yn ogystal â methu â gallu gwylio ein tîm pêl-droed cenedlaethol ar ddarlledwr y wladwriaeth â sylwebaeth Saesneg, mae’r camau hyn eisoes yn fy nieithrio i ac eraill.
Mae’r cynigion hyn yn ddangosydd arall bod ein gwladwriaeth yn awgrymu bod Cymry di-Gymraeg yn llai pwysig neu ddim yn cael eu gwerthfawrogi cymaint na’r rhai sy’n siarad Cymraeg.
Rwy’n eich annog yn gryf i ailystyried y dull hwn yn y newidiadau sydd ar fin cael eu gwneud i’r ffiniau.
Ar gyfer y cofnod, rwyf i hefyd yn gwrthwynebu i gynyddu nifer y seddi, byddai’n well gennyf i arian trethdalwyr gael ei wario ar leihau’r anghydraddoldebau sydd eisoes yn sylweddol sy’n bodoli yng Nghymru o’i chymharu â rhanbarthau eraill y DU.
Yn Gywir
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.