Sylw DBCC-8220
Rwy’n rhyfeddu at y ffaith y bydd yr enwau etholaeth newydd arfaethedig yn y Gymraeg yn bennaf.
Mae llai nag 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru yn siarad Cymraeg. Pa fath o ddemocratiaeth sy’n cytuno i 20% o’r boblogaeth reoli pa iaith rydym ni’n ei siarad?
Beth yw’r gost i bobl cymru o ddyblygiad diangen pob ffurflen a llythyr a anfonir i bobl cymru? Nid wyf i’n siarad Cymraeg ac edrychwch ar yr holl wastraff rydych chi’n ei greu trwy geisio fy nhroi.
Fe allech chi leihau’r gwastraff hwn trwy ddefnyddio un digid yn yr wybodaeth sydd gennych amdanaf i er mwyn cyfathrebu â mi drwy gyfrwng y Saesneg.
Hyd yn oed gyda’ch holl raglenni yn annog pobl i siarad cymraeg, rydych chi’n colli’r frwydr i gynyddu’r defnydd o’r gymraeg, nid yw’n digwydd. Nid leiaf oherwydd eich bod chi’n brwydro gwe fyd-eang sy’n bennaf Saesneg, yn enwedig gan y to iau.
Chwarae teg, gadewch i ni gael y gymraeg i’r rhai sydd ei heisiau, peidiwch â’i gorfodi ar bobl – mae’n unbennaeth.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.