Sylw DBCC-8229
Helo
Diolch yn fawr am y cyfle i wneud sylwadau ar y cynigion ar gyfer ffiniau diwygiedig.
Ar gyfer cyd-destun, rwy’n byw yn y Bers, ger Wrecsam.
Mae gen i un neu ddau o sylwadau yr wyf i’n teimlo y mae angen i mi eu gwneud.
1. Enwau etholaeth uniaith Gymraeg. Er fy mod i’n llwyr werthfawrogi’r dymuniad i wneud y Senedd yn gorff ar wahân â’i nodweddion ei hun ac yr ystyrir bod cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn rhan o’r gwahaniaeth hwnnw, rwy’n meddwl tybed sut y mae enwi’r etholaethau gan ddefnyddio enw Cymraeg yn unig yn cyd-fynd â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, sy’n datgan bod yn rhaid i sefydliadau drin y ddwy iaith ar sail gydradd. O gofio bod yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol diwethaf wedi amcangyfrif bod 29.5% o bobl tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, mae hynny’n golygu i bob pwrpas nad yw 70% o’r wlad yn ei siarad. Er mai’r nod yw cynyddu’r nifer honno, y ffaith amdani yw ei bod yn ymddangos ar hyn o bryd bod gormod o bwys yn cael ei neilltuo i enw uniaith Gymraeg pan fo’r cyfle yn dal i fodloni i’r Comisiwn gael cyfieithiad Saesneg hefyd. Rwyf i wedi darllen y rhesymeg sy’n sail i hyn yn y polisi - ond rwy’n ansicr sut mae hyn yn golygu caniatáu i’r iaith Saesneg beidio â chael ei thrin yn ddim llai ffafriol na’r Gymraeg. Rwy’n hapus i gael fy mherswadio fy mod i’n anghywir ynghylch y mater hwn.
2. Rwy’n byw yn y Bers, fel y nodwyd uchod. Ystyriwyd bod y Bers a Rhostyllen yn ardal briodol i’w chynnwys yn etholaeth seneddol y DU Maldwyn a Glyndŵr. Roeddwn yn teimlo bod hynny’n anghywir ar yr adeg y lluniwyd y ffiniau newydd a dywedais hynny. Rwy’n gweld bellach y cynigir y dylem gael ein cynnwys yn etholaeth Senedd Gwynedd Maldwyn sy’n waeth fyth o ystyried ei fod yn ymestyn ar draws i’r arfordir. Rwy’n gwbl ymwybodol nad oes unrhyw beth y gall y Comisiwn ei wneud ynghylch ail-lunio ffiniau’r DU, ond rwy’n credu y byddai yr un mor briodol i’r etholaeth honno gael ei pharu gyda Wrecsam ag y byddai iddi gael ei pharu gyda Dwyfor Meirionnydd.
Diolch am roi o’ch amser i ddarllen – os oes cyfle i gael ymateb byddwn yn croesawu un, ond rwy’n sylweddoli yn ôl pob tebyg nad yw’r naill na’r llall o’r uchod yn agored i drafodaeth.
Gan ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd heddychlon i chi.
Yn gywir
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.