Sylw DBCC-8233
Annwyl Syr/Madam,
Hoffwn ofyn a fyddai'r comisiwn yn ailystyried gorfodi enw Cymraeg ar gyfer ein hetholaeth a elwir yn The Vale of Glamorgan ar hyn o bryd. Fel meddyg teulu wedi ymddeol, treuliais 30 mlynedd yn y gymuned, ar ôl symud o dref fach yng Nghwm Tawe a threulio 12 mlynedd yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn derbyn swydd yn Llanilltud Fawr. Rwyf felly mewn sefyllfa dda i wneud sylwadau ar "gymreictod" y cymunedau yr wyf wedi byw a gwasanaethu ynddynt. Er fy mod i wastad wedi bod yn ymwybodol o wladgarwch cryf ymysg fy ffrindiau, perthnasau a chleifion, nid wyf wedi profi llawer o genedlaetholdeb a theimlaf fod gorfodi enw Cymraeg yn drewi o genedlaetholdeb ac y byddai'n difreinio llawer. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r Fro, mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn fach iawn (rwy'n cyfrif fy hun yn eu plith) a byddwn yn awgrymu, pe byddai'r opsiwn i newid enw'r etholaeth yn cael ei roi gerbron pleidlais ddemocrataidd, NI fyddai dewis y Comisiwn yn ennill y dydd.
Mae mater arall wedi achosi pryder imi. Mae cefnogaeth gref i'r Blaid Geidwadol ym Mro Morgannwg ond cefnogaeth gryfach i'r Blaid Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr (mae'r hen goel "gallech roi asyn i sefyll dros Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr a byddai'n ennill" yn boblogaidd o hyd). Gallai rhywun ddirnad yr uno fel ymgais gan Lywodraeth Lafur i gadw goruchafiaeth ei gweinidogion. Ni fyddai’n teimlo fel bod y symudiad yn hyrwyddo'r broses ddemocrataidd.
Diolch am wrando,
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.