Sylw DBCC-8236
DE POWYS TAWE NEDD
Mae'r enw newydd yn swnio fel enw Arglwydd Normanaidd ac ni fydd yn golygu unrhyw beth i ran fwyaf o bobl yr etholaeth. Prin y bydd gan neb yn yr ardal unrhyw syniad beth yw ystyr enw'r etholaeth na'r ardal y mae'n ei chynrychioli. Drwy enwi'r etholaeth yn Gymraeg mewn ardal fwyafrifol Saesneg mae hyn yn awgrymu gogwydd bwriadol tuag at annog pleidleisiau i blaid y cenedlaetholwyr, Plaid Cymru, ac ymgais i greu pleidlais unochrog i gefnogi amcanion iaith carfanau lleiafrifol.
Rwy'n cynnig enwi'r etholaeth fel a ganlyn:
Brecon, Radnor, Neath and Swansea east (Brycheiniog, Maesyfed, Castell-nedd a dwyrain Abertawe)
Fel y bydd y mwyafrif o bobl yn deall yr ardaloedd lle maen nhw'n pleidleisio oherwydd bod y rhan fwyaf o enwau’r siroedd perthnasol yn cynnwys trefi mawr cysylltiedig. Wrth enwi'r etholaeth sydd â Saesneg yn iaith gyntaf, dylai’r enw fod yn berthnasol i'r mwyafrif o'r boblogaeth er mwyn annog pleidleiswyr i gymryd rhan yn yr etholiad.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.