Sylw DBCC-8240
Nonsens yw'r etholaeth arfaethedig 'Ceredigion Penfro'. 'Penfro' yw'r enw Cymraeg ar dref Penfro neu’r cantref hanesyddol. Mae'n gwneud cymaint o synnwyr wrth gynrychioli'r ardal gyfan ag y byddai 'Ceredigion Dinbych y Pysgod'. Nid yw'n cynrychioli nac yn ymwneud â Sir Benfro gyfan a fydd yn rhan o'r etholaeth newydd arfaethedig (ynghyd â Cheredigion). Hefyd nod yw’n cynrychioli amrywiaeth ieithyddol De Sir Benfro. Gallaf weld nad yw'r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau yn hoff iawn o Saesneg ond mae mwy yn digwydd yma yn Sir Benfro. Nid 'cyfieithiadau' o'r Gymraeg yw ein henwau lleoedd, ond enwau gwreiddiol sy'n cynrychioli ein hanes a'n diwylliant yn y rhan fwyaf o achosion. Nid yw'n gwneud synnwyr cael un diwylliant/iaith leiafrifol (Cymraeg) yn dileu diwylliant/tafodiaith hyd yn oed mwy lleiafrifol (un De Sir Benfro).
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.