Sylw DBCC-8265
Mae'r ffordd y mae’r Rhondda wedi'i rhannu oddi wrth weddill y cymoedd cysylltiedig yn dangos bod diffyg parch at y cysylltiadau diwylliannol sy'n bodoli a'r rhaniad y mae'r amgylchedd yn ei achosi mewn gwirionedd i gymunedau. Adlewyrchir hyn gan y ffaith bod pobl y Rhondda yn gallu cael mynediad hawdd at gyfleusterau fel ysbytai yn ardaloedd Ogwr, Afan, Port Talbot neu Ben-y-bont ar Ogwr. Bydd creu ffin o'r fath yn arwain at wneud penderfyniadau gan etholaethau eraill a fydd yn effeithio ar y Rhondda heb unrhyw atebolrwydd. Bydd hyn yn wir am fwy na dim ond iechyd a chynghorau yn unig. Mae mynyddoedd Cymru wedi rhannu cymunedau erioed, tra bod y cymoedd wastad wedi'u cadw gyda'i gilydd, fel hynny fydd hi. Bydd etholaeth arfaethedig Afan Ogwr Rhondda yn rhannu'r Rhondda oddi wrth y cymunedau agosaf ato ac yn ei roi ar yr ymylon, gan nad wyf yn gweld lle y byddai'r AS yn lleoli ei hun i allu bod yn hygyrch i'r etholaeth gyfan gan fy mod i'n gwybod nad oes cysylltiadau trafnidiaeth da rhwng y Rhondda a gweddill yr ardaloedd yn yr etholaeth arfaethedig.
Gallaf weld hyn fel rhywun o Loegr sydd wedi byw yma ers deng mlynedd a mwy.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.