Sylw DBCC-8311
Mae'r dewis o "Merthyr Cynon Taf" yn sarhaus ac yn ddaearyddol-anllythrennog.
Mae Afon Taf yn llifo trwy Ferthyr Tudful, felly rydych chi'n cwmpasu'r un ardal ddaearyddol ddwywaith mewn gwirionedd.
Mae gan Bontypridd hanes cyfoethog - yn enwedig fel man geni Hen Wlad Fy Nhadau - felly mae ailenwi'r ardal gyfan yn "Merthyr..." yn gwbl amharchus. Mae'r un confensiwn enwi ar gyfer ardal cyngor Rhondda Cynon Taf yn aml yn arwain at frawddegau (yn enwedig ar newyddion y BBC) fel "Pontypridd yn y Rhondda..." sy'n ddatganiad anghywir.
Yn ôl Wicipedia mae gan etholaeth Pontypridd fwy o boblogaeth nag ardal cyngor Merthyr - ac eto Merthyr yw'r 'prif' ardal yn ôl y cynigion.
Gallai dewisiadau eraill gynnwys "Pontypridd, Cwm Cynon a Merthyr", "Cwm Taf a Chwm Cynon", "Cymoedd Taf a Cynon" - neu gallech fenthyca o ardal draddodiadol y cyngor, e.e. "Canol Morgannwg"/"Canolbarth Morgannwg". Byddwn hefyd yn tynnu eich sylw at enw'r bwrdd iechyd lleol sef "Cwm Taf Morgannwg" fel dewis arall (rwy'n derbyn bod hyn yn cynnwys y Rhondda a Phen-y-bont ar Ogwr) - neu'r hen "Cwm Taf" yn unig cyn i Ben-y-bont gael ei gynnwys (yn nyddiau BIP ABM).
Diolch yn fawr.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.