Sylw DBCC-8319
Annwyl gyfeillion
Mae'n dda iawn gennyf ysgrifennu mewn ymateb pellach i gynigion diwygedig y Comisiwn ar gyfer etholaethau newydd Cymru.
Rwy'n credu fod yr un newid o ran ffiniau a wnaed o'r fersiwn wreiddiol - sef newid y parau yn y brifddinas - yn addas iawn, ac yn gyson iawn gyda'r canllawiau a fabwysiadwyd.
Does gen i ddim sylwadau pellach i'w cynnig o ran y ffiniau.
O ran yr enwau rwy'n credu fod y Comisiwn wedi gwneud gwaith sylweddol yn ceisio enwau Cymraeg addas ar gyfer yr etholaethau newydd.
Mae gen i dair man sylw ar yr enwau:
i) Rwy'n credu fod 'De Powys' yn ddigon dealladwy yn y ddwy iaith, ac felly does dim angen cyfieithiad o'r enw hwnnw.
ii) Gan fod etholaeth De Powys, Nedd, Tawe yn bodoli - gyda rhan Abertawe sy'n agos i'r Tawe, rwy'n credu y byddai'n dderbyniol i fabwysiadau Gwyr Abertawe fel enw ar gyfer yr etholaeth arall yn y ardal honno. Mae Coleg Gwyr Abertawe yn gwasanaethau Gwyr a Gorllewin y ddinas yn bennaf, tra bod Coleg Nedd Port Talbot yn denu nifer o fyfyrwyr o'r Dwyrain.
iii) Rwy' wedi gweld ambell sylw am ddefnyddio enwau Cymraeg awdurdodau lleol. Mae hwn i'w gweld yn ffordd cwbl rhesymol i weithredu i'm tyb i. Mae'n ddiddorol nodi wrth basio taw enw'r tim sydd ar ben cynghrair bel-droed Cymru ar hyn o bryd yw Penybont (nid Bridgend).
Gyda diolch am eich holl gwaith a llongyfarchiadau ar set o gynigion rhesymol iawn,
Yn gywir iawn
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.