Sylw DBCC-8322
Rwyf wedi dewis cyflwyno fy sylwadau ar yr uchod fel e-bost.
Dwi'n byw yn yr etholaeth newydd arfaethedig 'De Powys Tawe Nedd’.
Sut mae'r ardal hon yn ymwneud â chanolbarth Cymru, yn enwedig gan fod troed ein hardal newydd bellach yn camu i dde Cymru? Mae'r ardal hon mor wahanol yn gymdeithasol ac yn economaidd i 'ganolbarth Cymru'.
Fy mhrif gwestiwn yw pam mae ymdrech i ddewis ffiniau newydd?
Beth oedd 'o'i le' gyda'r hen ffiniau ?
Pam nad ydyn nhw’n gweithio mwyach?
Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni pan mae'r rhan fwyaf o siroedd, gan gynnwys Powys, yn gorfod gwneud toriadau ariannol mawr i dalu costau cynyddol, pam penderfynu creu cost ychwanegol? Nid yw canlyniad y ffiniau diwygiedig yn hysbys a gallent fod yn fwy costus yn y pen draw i'w cynnal.
Rydych chi'n gofyn i ni wneud sylwadau nawr, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r Comisiwn fel pe bai eisoes wedi gwneud ei benderfyniad.
Cofion cynnes a phob dymuniad da ar gyfer 2025.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.