Skip i'r cynnwys
Home
English
  • Hafan
  • Sylwadau
  • Help

Sylw DBCC-8324

Pnawn da - fe roddwyd sylw i'r ymgynghoriad yma mewn cyfarfod o Gyngor Tref y Bala neithiwr.
Gofynnwyd i mi fynegi'r sylwadau canlynol:
1. Fod maint etholaeth Gwynedd Maldwyn yn enfawr, a bod goblygiadau ymarferol i hyn i aelodau senedd etc.
2. Fod gwahaniaethau diwylliannol a ieithyddol sylweddol o fewn yr etholaeth arfaethedig, ac mi fyddai'n anodd iawn i aelodau fedru cynrychioli'r gwahanol anian yma. Roedd yr aelodau am eich atgoffa fod mynyddoedd y Berwyn yn hollti'r etholaeth, ac wedi gwneud hynny yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol ar hyd y canrifoedd.
Apeliwn arnoch felly i ystyried y materion yma, ac i greu etholaeth sydd yn fwy cynrychioladol o'r ardal, ei phobl a'u hanian.
Diolch yn fawr.
[REDACTED]
Clerc Cyngor Tref y Bala.

Math o ymatebwr

Ar ran Cyngor Cymuned/Tref

Enw sefydliad

Bala Town Council

Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at

Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.

Mae'r ymgynghoriad arolwg hwn bellach ar gau.

Ffyrdd eraill o ddweud eich dweud

E-bost

Gallwch ebostio eich sylwadau atom yn ymgynghoriadau@ffiniau.cymru

Ein nod yw ymateb o fewn 7 diwrnod gwaith.

Post

Gallwch bostio eich sylwadau ysgrifenedig atom.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

  • Amdanom ni
  • Rhyddid gwybodaeth
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Preifatrwydd