Sylw DBCC-8327
Yn hollol hurt, ar o leiaf ddau gyfrif. Nid wy’n gwybod sut cafodd y sedd ei gwerthuso'n ddaearyddol ond mae dweud, ac rwy'n dyfynnu o'ch dogfennau, y byddai'r sedd yn "cyfuno ardaloedd cyfan prif gynghorau Ceredigion a Sir Benfro yn 1 etholaeth, sydd â chysylltiadau ffyrdd da rhwng y 2 ardal ac sydd felly’n etholaeth gydlynol" yn anghywir. Cysylltiadau ffyrdd da!!! Pa ffyrdd deithioch chi arnynt i ddod i'r casgliad hwn? Mae'r ffyrdd yng Ngheredigion, wrth symud i lawr tuag at Sir Benfro, gyda'r gwaethaf yng Nghymru. Mae cysylltiadau ffyrdd llawer gwell rhwng Sir Gâr a Sir Benfro, gyda sawl darn o ffordd ddeuol.
Os yw'r Comisiwn, fel y nodwyd, hefyd yn ystyried cysylltiadau lleol, megis cysylltiadau hanesyddol, y Gymraeg, ac ystyriaethau economaidd-gymdeithasol mewn ymgais i gynnig etholaethau sy'n teimlo mor naturiol â phosibl ledled Cymru, yna unwaith eto, nid yw cynnig sedd Penfro Ceredigion, sy’n cynnwys Sir Benfro gyfan, yn ddilys. Mae'r gwahaniaeth iaith rhwng Ceredigion a Gogledd Sir Benfro, lle mae'r Gymraeg yn flaenllaw o hyd, a gweddill Sir Benfro yn sylweddol. Mae ardaloedd helaeth o Sir Benfro bron yn gwbl Seisnig gydag ychydig iawn o oddefgarwch tuag at y Gymraeg. Byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod at ba gysylltiadau hanesyddol y cyfeirir atynt yma? Pa ffactorau economaidd-gymdeithasol? Er bod Ceredigion a Phenfro yn cynnwys rhannau helaeth o weithgarwch amaethyddol a thwristiaeth, mae gan Benfro ddiwydiant puro olew ar raddfa fawr fel ffactor hollbwysig hefyd.
Nid oes unrhyw synnwyr o gwbl mewn uno dwy ardal mor wahanol fel un etholaeth.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.