Sylw DBCC-8328
Ymgynghoriad ar Ffiniau Diwygiedig y Senedd
Annwyl Syr/Fadam,
Rwy'n ysgrifennu mewn perthynas â'r ymgynghoriad uchod sy'n cau ar 13 Ionawr 2025 i wrthwynebu'n gryf enw'r etholaeth sy’n paru Sir Fynwy a Thorfaen.
Gan werthfawrogi bod Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 yn ei gwneud yn ofynnol i greu 16 o etholaethau Senedd newydd, a gaiff eu creu drwy baru 32 etholaeth Senedd y DU, mewn da bryd ar gyfer etholiad Senedd 2026 ac y bydd adolygiad llawn o'r ffiniau ar ôl etholiad Senedd 2026, nid yw'n golygu bod yn rhaid i enw'r etholaethau newydd fod yn anghyfarwydd i'r etholwyr fel y cynigir ar gyfer Sir Fynwy.
Mae'r Comisiwn yn cynnig un enw, sef Mynwy Torfaen.
Mae Torfaen wedi cael cadw enw ei awdurdod lleol ac felly y dylai Sir Fynwy ac fe fyddai'n annheg gwneud fel arall.
Felly, yn syml, dylid enwi etholaeth newydd y Senedd yn Sir Fynwy Torfaen.
Fel Cynghorydd Sir Fynwy, nid wyf yn cytuno â dadl y Comisiwn y bydd yr enw 'Mynwy' yn adnabyddadwy i drigolion Sir Fynwy, bydd yn gwbl ddieithr iddynt ac felly'n peri dryswch ymhlith trigolion. Nid yw hyn yn berthnasol i'r awdurdod lleol arall yn y pâr, sydd wedi cael cadw ei enw ac sy'n gyfarwydd i drigolion.
Hefyd, nodir bod rhai o'r awdurdodau lleol eraill wedi cael cadw enwau eu hawdurdod lleol gwreiddiol.
Yn ôl y wasg, 'De-ddwyrain Caerdydd Penarth' yw un o bedwar yn unig ag enwau dwyieithog?
O ystyried bod Cymru'n ddwyieithog ac er mwyn osgoi dryswch ymhlith trigolion lleol, yr ateb mwyaf synhwyrol i'r mater hwn fyddai caniatáu enw dwyieithog i bob pâr. Byddai'n golygu y byddai Sir Fynwy a Thorfaen yn cael ei galw'n 'Monmouthshire Torfaen' a 'Mynwy Torfaen'.
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fodd bynnag, hyd yn oed os cyrhaeddir y targed hwnnw, mae 3 miliwn a mwy o bobl yng Nghymru ac mae hyn yn golygu mai dim ond 1 o bob 3 fyddai'n adnabod enw Cymraeg ac na fyddai 2 o bob 3 yn adnabod enw Cymraeg.
Mewn gwirionedd, yn seiliedig ar Gyfrifiad Cymru 2021, amcangyfrifwyd bod 538,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru sy'n dair oed a throsodd (17.8%) yn gallu siarad Cymraeg, sy'n ostyngiad ers 2011 (562,000, 19.0%). Mae hyn yn golygu pe byddem yn hael ac yn cymryd bod 20% o bobl yn gallu siarad Cymraeg, yna byddai llai nag 1 o bob 5 yn adnabod enwau Cymraeg ac ni fyddai mwy na 4 o bob 5 yn eu hadnabod.
O ran Sir Fynwy, gostyngodd canran y siaradwyr Cymraeg o 9.9% yn 2011 i 8.7% yn 2021. Cwympodd canran siaradwyr Cymraeg Torfaen o 9.8% yn 2011 i 8.2% yn 2021. Felly, mae gan Sir Fynwy a Thorfaen lai nag 1 o bob 10 yn siaradwyr Cymraeg ac mae dadl hyd yn oed yn fwy dros roi enw uniaith Saesneg 'Monmouthshire Torfaen' i Etholaeth y Senedd fel y gall y 9 o bob 10 arall ei ddeall.
Rwy'n mawr obeithio y bydd y sylwadau hyn yn cael eu hystyried o ddifri a'r diwygiadau'n cael eu rhoi ar waith, gan ei bod yn sylfaenol annheg caniatáu i rai gael enwau dwyieithog ac nid pob un.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gydnabod eich bod wedi derbyn y sylwadau hyn gan nad oeddwn i'n gallu dod o hyd i gyfeiriad e-bost penodol er mwyn anfon ymateb i'r ymgynghoriad.
Cofion cynnes
Y Cynghorydd Dr Louise Brown
Cynghorydd Sir Fynwy
Ward Shirenewton
Math o ymatebwr
Cynghorydd lleol neu swyddog etholedig arall
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.