Sylw DBCC-8332
Helo
Yn gyntaf, hoffwn ddweud bod cynyddu nifer y ffiniau ac aelodau'r cynulliad yn chwerthinllyd. Bydd gennym Aelod Cynulliad ar gyfer bob rhyw 2000 o bobl yng Nghymru. A oes angen gwneud hyn? A yw hyn yn werth am arian i'r trethdalwr? A allwn ni neu a ddylem ni fod yn creu mwy o reolwyr gwleidyddol yng Nghymru, pan mae Cymru wedi dirywio'n barhaus o ran twf, cyfoeth personol, cyfeiriad ac mewn llu o feysydd eraill.
Mae'r plant yn llawer llai deallus nawr na 40 mlynedd yn ôl. Mae'r GIG yng Nghymru yn warth ac yn drychineb llwyr, ac wedi bod am y 25 mlynedd diwethaf. Mae'r seilwaith, gwasanaethau cyhoeddus, cyfraith a threfn a'r rhagolygon ym mhob agwedd ar fywyd wedi dirywio nes fy mod yn credu na allai pethau fynd yn waeth, ond dyna fydd yn digwydd.
Fel gyda'r GIG, addysg, pob llywodraeth leol a chanolog, pob cwango, pob corff cynghori, mae'n ymddangos eich bod yn meddwl bod angen mwy o reolwyr a rheoli. Mewn gwirionedd, mae angen llawer llai. Mae fy nghyngor lleol i, Caerffili, yn enghraifft dda. Cyflogi mwy a mwy o reolwyr. Rhowch becynnau cyflog gwych iddynt ac yna torri llu o wasanaethau yn yr ardal gyfan oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i'w rhedeg. Mae hyn oherwydd bod yr holl arian yn mynd i reolwyr a'u pensiynau. Felly maen nhw'n cyflogi mwy o reolwyr neu gyrff cynghori i adrodd ar sut gallan nhw arbed arian. Yn gyntaf, dylent allu gwneud hynny eu hunain ac yn ail, mae angen diswyddo 70% o'r rheolwyr.
Yn ddiweddar rwyf wedi cael llawer o gyswllt â gwahanol bobl yn y GIG. Fe wnaeth ymgynghorydd grynhoi teimladau'r cyhoedd a holl staff y GIG. Dywedodd nad oes angen mwy o arian ar y GIG. Pe byddech chi'n rhoi £100 miliwn ychwanegol iddyn nhw yfory, bydden nhw yn yr un sefyllfa mewn mis, meddai. Y rheswm am hynny yw y bydd rheolwyr yn cyflogi mwy o reolwyr i wneud eu gwaith ac ati. Nid oes unrhyw waith go iawn yn cael ei wneud mewn gwirionedd; dim ond cyfarfodydd a thrafodaethau diddiwedd. Teithiau 'addysgol neu daflu syniadau' dramor ac ati. Dyw'r staff go iawn, y gweithwyr, byth yn gweld dim o'r arian, meddai. Meddai'r ymgynghorydd - mewn clwb pêl-droed, os yw'r tîm yn parhau i fethu, y rheolwr sy’n cael ei ddiswyddo gyntaf. Yng Nghymru, ym mhob rhan o'r llywodraeth leol, y llywodraeth ganolog a'r gwasanaeth sifil, y gweithwyr sy’n cael eu diswyddo a gwasanaethau'n cael eu terfynu. Mae'r rheolwyr yn cael codiad cyflog, canmoliaeth, a gwobr mwy na thebyg. Yna'r flwyddyn nesaf mae'r trethi'n codi eto i dalu am y rheolwyr yma.
Problem arall rwy'n dod ar ei thraws yn rheolaidd ar ôl byw yma am 58 mlynedd yw bod newid ffiniau ac enwau siroedd yn achosi hafoc gyda chyfeiriadau post. Rwy'n cofio Trecelyn, lle dwi'n byw, yn Nhrecelyn Sir Fynwy. Yna Gwent. Nawr mae yng Nghaerffili. Ond sir Caerffili, nid y dref. Ond NP yw fy nghod post, sef Casnewydd. Ond nid wyf yn byw yn sir Casnewydd. CF sydd ar god post Caerffili, sef rhagddodiad Caerdydd. Ond dwi ddim yn byw yn unman ger Dinas na Sir Caerdydd. Mae archebu ar-lein yn broblemus iawn oherwydd nid yw gwefannau yn deall y broblem hon yn llawn. Ac, mae nifer yn nodi'r cyfeiriad yn awtomatig i Gasnewydd oherwydd y cod post NP. Ond dwi'n byw yn Nhrecelyn. Ydych chi'n gwybod faint o filltiroedd sydd rhwng Trecelyn a Chasnewydd? Ond mae rhywun yn Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn syniad da cadw i newid ffiniau ac enwau siroedd bob ychydig flynyddoedd. Ac rydyn ni i gyd yn gwybod eich bod chi'n gwneud hyn i ledaenu dyled cynghorau a cheisio sicrhau'r bleidlais fwyaf i Lafur mewn etholiadau yn y dyfodol. A yw hyn yn golygu y bydd yn rhaid i fy nghyfeiriad ddatgan Blaenaugwentcaerffilirhymni yn y blwch 'sir'? Rwy'n anobeithio. Hefyd, allwch chi ofyn i'r adran gynllunio gael cyfarfod am enwau strydoedd. Mae iaith yn ffordd wych o gyfathrebu ond yng Nghymru mae'n ymddangos yn gyfyngedig iawn. Rwy'n darparu gwasanaeth dosbarthu ac mae enwau strydoedd yng Nghymru yn tueddu i fod yn Park, Railway, Woodland, Church, Forest ac ati. Yn y bôn, os caiff tai eu hadeiladu ger coed, y cyfeiriad fydd Woodland Drive, neu Street neu Court. Ydych chi'n sylweddoli faint o ddyblygiadau o enwau strydoedd sy'n bodoli o fewn radiws 3 milltir? Onid all rhywun yn yr adran gynllunio, mewn unrhyw gyngor, feddwl am unrhyw eiriau eraill, rhywbeth gwahanol, rhywbeth unigryw na all gweithwyr dosbarthu ei gael yn anghywir. Efallai y dylai grŵp o aelodau fynd ar daith i Efrog Newydd, er enghraifft, i drafod sut y gallai dyblygu enwau strydoedd achosi dryswch diangen.
Problem fawr arall, a fydd yr un broblem sydd gennym gydag aelodau presennol y cynulliad yn ogystal â'r 36 ychwanegol sydd mewn golwg, yw nad nhw fydd y person mwyaf cymwys neu briodol ar gyfer y swydd yn ôl pob tebyg. O'r hyn rydyn ni gyd wedi'i brofi yng Nghymru hyd yma, bydd ymgeiswyr yn gorfod siarad Cymraeg yn rhugl, bod wedi'u geni a'u magu yng Nghymru, bod ar ochr chwith eithafol y sbectrwm gwleidyddol a chael eu hystyried yn lleiafrif mewn o leiaf 3 agwedd.
Nid oes angen mwy o aelodau cynulliad ar boblogaeth Cymru mewn unrhyw ffurf. Mae angen llai. Mae'n wastraff llwyr o'r arian ychwanegol sydd ei angen ar gyfer eu pecynnau cyflog; eu staff cymorth ychwanegol; adeilad newydd y cynulliad, y byddwch chi gyd eisiau ei adeiladu fel y gall pob un ohonoch gael swyddfa, gyda ffenestr a golygfa - ac yna gweithio gartref.
Rwy'n cynnig gwario'r holl arian ychwanegol hwn, arian rydych chi’n mynnu dweud nad oes gennych chi, ar gael gwared ar hanner y rheolwyr ym mhob maes gwasanaeth sifil, y GIG, yr heddlu, llywodraeth leol a chanolog ac ati. Cael y gweithlu sy'n weddill yn ôl i'r swyddfeydd a gweithio diwrnod llawn 9 tan 5. Efallai wedyn y bydd Cymru'n dechrau symud ymlaen..
Cofion gorau
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.