Sylw DBCC-8334
Bore da,
Ysgrifennaf fel Cadeirydd Ffederasiwn Ceidwadwyr De Caerdydd a Phenarth, i gynnig ein barn ar y cynigion ar gyfer enw newydd Etholaethau De Caerdydd a Phenarth a Dwyrain Caerdydd, yn y Senedd ddiwygiedig.
Mae arolwg barn cyhoeddus a oedd ar agor i bob aelod o'r cyhoedd wedi'i gynnal yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, ac mae'r canlyniadau'n dangos ffafriaeth enfawr o blaid cadw Penarth ym Mro Morgannwg, ar wahân i etholaethau Caerdydd - mae tua 95% o'r ymatebion yn mynegi'r dewis hwnnw.
Fodd bynnag, pe bai'r Comisiwn yn cymryd barn wahanol i'r cyhoedd, yna mae'r awgrymiadau canlynol wedi'u cyflwyno i'w mabwysiadu:
1. Penarth De Caerdydd 1
2. Bro Morgannwg Penarth 1
3. Caerdydd a Dwyrain Morgannwg 1
4. Penarth, Bro Morgannwg 16
5. Penarth-De Caerdydd 2
6. Bro Morgannwg 1
7. De Caerdydd a Phenarth 1
8. Penarth, De Morgannwg 1
9. Penarth, De Caerdydd 2
Dewis y Ffederasiwn fyddai Penarth a De Caerdydd (Penarth & Southern Cardiff). Byddai hyn yn adlewyrchu poblogaeth dwy ardal Caerdydd yn etholaeth newydd y Senedd, tra hefyd yn cydnabod maint y boblogaeth o ryw 30,000 o'r ardaloedd hynny yn Sir Bro Morgannwg, a fyddai'n cael eu cynnwys yn yr etholaeth "gefeillio". Mae “Southern Cardiff” hefyd yn enw "meddalach" a llai penodol, ar gyfer etholaeth eang iawn sydd mor wahanol a digyswllt, fel yr un rydych chi'n ei gynnig.
Diolch am eich diddordeb yn ein hymateb.
Cadeirydd y Ffederasiwn.
Math o ymatebwr
Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)
Enw sefydliad
Cardiff & Penarth Conservative Federation
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.