Sylw DBCC-8341
Mae'n debyg taw'r etholaethau honedig hyn (sydd mewn gwirionedd yn rhanbarthau o ystyried eu maint a'u hardaloedd gwahanol) yw'r ffordd leiaf gwael o fodloni'r gofynion a osodwyd gan y Senedd.
Fodd bynnag, mewn o leiaf un achos mae'r enw arfaethedig yn annerbyniol, sef ar gyfer rhanbarth cyfunol Torfaen a Sir Fynwy. Nid yw'r enw arfaethedig 'Mynwy' yn adnabyddus yn y sir.
Bydd defnyddio hyn yn gwneud i system newydd y Senedd ymddangos yn debycach fyth i rywbeth sy’n cael ei orfodi o dramor, gyda'r AS wedi'i benodi gan broses lygredig ac anghynrychiadol, heb unrhyw gysylltiadau lleol ystyrlon.
Gall defnyddio enwau uniaith Gymraeg fod yn niweidiol i'r iaith.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.