Sylw DBCC-8350
O ystyried y system arfaethedig yn y dyfodol*, mae’n amlwg y dylid cyfuno Brycheiniog a Maesyfed â Maldwyn a Glyndŵr a'u henwi yn unol â hynny, yn hytrach nag ymestyn tua'r de. Byddai hyn yn cyd-fynd â chysylltiadau hanesyddol “yr hen 3 sir”, gyda chyfuniad dalgylch afonydd mwy rhesymegol - h.y. afonydd Gwy, Wysg a Hafren, yn hytrach na chyfuno ag afon Tawe. Hefyd, byddai'n cyfuno etholaethau gwledig tebyg ag arferion ffermio tebyg ac yn cynnal y cysylltiadau â'r Gororau sydd o bwys diwylliannol a hanesyddol mawr. Nid yw'r dadleuon am darfu ar drefniadau eraill ("sgil-effeithiau") yn dal dŵr: maent yn eu tro yn fympwyol ac afresymegol. Wrth gwrs, mae cysylltiadau trafnidiaeth hyd yn oed yn well o fewn "fy" nghyfuniad arfaethedig i - ar y ffordd A'R rheilffordd - o'i gymharu â'r cynnig "swyddogol. Serch hynny mae'r holl ddadleuon yn ymddangos yn ofer gan fod y penderfyniad yn amlwg wedi'i wneud gan system wleidyddol wastraffus sydd eisoes yn anghynrychioliadol. Mae pleidleisiau a phenderfyniadau yn cael eu llywio gan ganolfannau trefol ar draul ardaloedd gwledig. Mae'r cynnydd yn nifer aelodau'r Senedd, i enwi dim ond un mesur afrad, yn sgandal; mae'r symiau sydd wedi'u ofera yn frawychus: yn y cyfamser mae cyfleusterau lleol gwirioneddol bwysig fel Canolfan Gelfyddydau Wyeside, Llanfair ym Muallt, yn brin o arian. Felly hefyd CNC.
*ond wrth gwrs y broblem go iawn yw'r symudiad i'r system d'Hondt (wedi’i haddasu): gwanhau'r cysylltiad ag Aelodau Seneddol/Aelodau o’r Senedd unigol y mae rhywun yn pleidleisio drostynt, gan roi cyfle i bleidiau lunio "rhestrau" i atebion eu dibenion a phwysleisio cyfuniadau "tu ôl i ddrysau caeedig" - cyn ac ar ôl yr etholiadau - nad yw'r etholwyr yn pleidleisio drostynt ac nad yw eu polisïau'n dryloyw.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.