Sylw DBCC-8359
Annwyl Mr Miles
Rwy'n ysgrifennu atoch fel un o'ch etholwyr.
Yn ystod y misoedd diwethaf cyhoeddwyd llawer o wybodaeth am etholaethau seneddol newydd Cymru a'u henwau.
Rwy'n gresynu darllen bod enwau Cymraeg yn unig wedi cael eu hargymell ar gyfer y mwyafrif helaeth o'r etholaethau hyn. Mae hyn yn mynd yn groes i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 sy'n nodi'n benodol y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.
Mae'r egwyddor hon wedi'i sefydlu yn Adran 5 y Ddeddf, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus baratoi a gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg sy'n amlinellu sut y byddant yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg gan beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Dyma’r union eiriad:
“… wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail eu bod yn gyfartal.”
Hoffwn i chi ysgrifennu at gadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru - Beverley Smith yn rhinwedd ei rôl yn Goruchwylio darparu Adolygiad Ffiniau'r Senedd, gan dynnu sylw at y ffaith bod argymhellion presennol yn mynd yn groes i Ddeddf yr Iaith Gymraeg a'r gofyniad i'r etholaethau newydd gael eu cyhoeddi yn Saesneg ar y mapiau ffiniau diffiniedig ac mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddedig i bleidleiswyr presennol a darpar bleidleiswyr.
Gallwch drin hyn fel gwrthwynebiad ffurfiol i enwau etholaethau uniaith Gymraeg gan egluro’r hyn sydd wedi'i roi ar waith i unioni'r argymhellion presennol
Yn gywir,
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.