Sylw DBCC-8371
Parthed: Ymateb i'r ymgynghoriad o ran etholaeth arfaethedig Sir Gâr
Mae rhesymeg yn yr egwyddor o roi dwy etholaeth Seneddol bresennol y DU at ei gilydd i wneud un etholaeth y Senedd ac mae'n rhesymegol rhoi Llanelli a Chaerfyrddin at ei gilydd.
Fodd bynnag, yn hytrach na'r enw Syr Gâr, ar ôl clywed barn fy etholwyr, byddwn yn cynnig galw'r etholaeth newydd
Llanelli and Carmarthen neu Llanelli a Chaerfyrddin
Rwy'n argymell hyn am y rhesymau canlynol:
1. Ystyr yr enw Syr Gâr yw Sir Gaerfyrddin ac mae'n gyfystyr ym meddyliau trigolion â’r Cyngor Sir, oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio ar ei bapur â phennawd, cerbydau a chyfleusterau'r Cyngor, felly mae posibilrwydd enfawr o ddryswch rhwng Sir Gâr ( y Cyngor Sir ) a Sir Gâr yr etholaeth.
2. Nid oes gan yr un o'r etholaethau arfaethedig eraill yr union enw â Chyngor Sir, felly mae'n gwbl anghyson yn hyn o beth.
3. Yn bwysicaf oll, mae llawer o bobl yn Llanelli yn teimlo'n drist iawn nad yw enw hanesyddol hirsefydlog eu hetholaeth wedi’i gynnwys, yn enwedig gan mai Llanelli yw tref a phwerdy diwydiannol mwyaf Sir Gaerfyrddin, ac maent eisiau gweld yr enw Llanelli yn cael ei gynnwys.
Os mai'r cynllun yw bod enw pob etholaeth yn uniaith Gymraeg, yna byddai'n llawer mwy derbyniol i bobl yn Llanelli ei galw'n Llanelli a Chaerfyrddin.
Os yw'r enwau i fod yn ddwyieithog, yna
Cymraeg: Llanelli a Chaerfyrddin
Saesneg: Llanelli and Carmarthen
Yn gywir,
Nia Griffith AS
Y Fonesig Nia Griffith DBE AS / MP
Aelod Seneddol dros Lanelli / Member of Parliament for Llanelli
[REDACTED]
Math o ymatebwr
Aelod Seneddol
Enw sefydliad
Llanelli Constituency
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.