Sylw DBCC-8382
Bore da
Rwy’n ysgrifennu mewn ymateb i gynigion etholaethol y Senedd. Ynghyd â nifer o bobl eraill yr ydych chi’n eu dyfynnu, sydd wedi mynegi eu bod yn anghytuno’n gyffredinol, nid wyf chwaith yn cefnogi’r cynigion hyn. Gofynnodd y wefan a oedd gan bobl farn ar fanylion yr etholaethau seneddol eu hunain, fodd bynnag, rwy’n anghytuno’n gyffredinol â’r cynnig cyfan.
• Rwyf wedi darllen y wefan ac ni allaf weld unrhyw le pam - pam y cyflwynwyd y bil hwn, pam fod angen newid yr etholaethau a pha fuddion gweladwy y bydd y newidiadau hyn yn eu darparu i Gymru?
• Ni allaf weld bod cyfanswm y gost amcangyfrifed i weithredu’r cynigion hyn wedi’i gyhoeddi ar-lein. A fyddech cystal â chyhoeddi hwn ar gyfer tryloywder llawn.
• O’r 3700 o ymatebion a ddaeth i law, faint oedd yn negyddol a faint a oedd yn anghytuno â’r cynigion hyn yn gyffredinol?
• Mae gan y mwyafrif helaeth o bobl sy’n byw yn Ne/Dwyrain Cymru, Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, ac yn bersonol, nid wyf yn cefnogi cyflwyno enw Cymraeg ar gyfer fy etholaeth fy hun (Bro Morgannwg). A yw pobl ddi-gymraeg wedi cael eu hystyried yn y cynnig hwn? Mae gofyn i rywun di-gymraeg ddefnyddio "De-ddwyrain Caerdydd Penarth" yn afresymol ac ni fyddwn yn synnu pe bai pobl yn gwrthod mabwysiadu’r enwau ar y sail honno.
Dylid gwario arian Cymru ar wella’r GIG ac nid ar brosiectau gwagedd ac mae’n debygol y bydd hyn, ynghyd â chyflwyno parthau 20mya (yr wyf yn eu cefnogi mewn gwirionedd, ond nid faint o arian a wariwyd ar hynny) yn fy ngweld i’n pleidleisio’n wahanol iawn mewn etholiadau yn y dyfodol.
Cofion
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.