Sylw DBCC-8392
Ar ôl y cynigion cychwynnol, rwy’n dal wedi fy syfrdanu bod y Comisiwn wedi gwneud dim un newid i’r map ac eithrio Caerdydd. Bu gwrthwynebiad sylweddol mewn llawer o etholaethau i’ch cynigion ar ôl eich ymgynghoriad cychwynnol, ac eto rydych wedi ei hystyried yn briodol anwybyddu’r holl adborth fwy neu lai - sydd wir yn gwneud i rywun feddwl tybed a ydych chi hyd yn oed yn agored i wrando ar unrhyw adborth, neu a yw’n achos arall lle mai swigen Bae Caerdydd yw’r unig leisiau yr ydych chi’n gwrando arnynt. Os oeddech chi’n mynd i anwybyddu’r holl adborth, yna beth yw pwynt ymgynghoriad?
Gan symud ymlaen, rwy’n mynd i ganolbwyntio ar eich cynnig ar gyfer Dwyfor-Meirionnydd gan mai dyna fy etholaeth i.
Er gwaethaf gwrthwynebiad cryf i’r cynnig gwreiddiol (â 71.4% o ymatebwyr yn anghytuno â’ch awgrym) rydych chi’n dal i fod wedi ei hystyried yn briodol anwybyddu adborth y bobl yn llwyr a gwneud dim newidiadau.
Rwy’n gwrthod eich syniad nad oes unrhyw opsiynau amgen ar gael, ac a bod yn gwbl blaen mae eich cyfiawnhad o fethu â gallu paru Ynys Môn gyda Dwyfor-Meirionnydd gan fod y pontydd rhyw fymryn dros y ffin yn yr etholaeth ym Mangor yn chwerthinllyd. Mae’n anwybyddu’r holl lifau a phatrymau traffig i bobl sy’n teithio i’r gwaith, yn ogystal â ffactorau diwylliannol fel addysg, y Gymraeg, a gofal iechyd. Mae gan Fangor ei hun gysylltiadau llawer agosach â Llangefni, Caergybi a Chaernarfon na chyrion Rhuthun a Dinbych, sy’n tueddu at Wrecsam a Llangollen.
Ar eich cynnig presennol ar gyfer Dwyfor-Meirionnydd a Glyndŵr - mae hwn yn fethiant o ddyletswydd y Comisiwn i gynrychioli buddiannau’r bobl. Mae’r penderfyniad i baru etholaethau Dwyfor Meirionnydd a Maldwyn a Glyndŵr yn gamgymeriad ofnadwy, ac rydych chi wedi penderfynu (i gychwyn o leiaf) anwybyddu’r gwrthwynebiad llethol gan y cyhoedd yn llwyr.
Yn ôl eich gwybodaeth chi, roedd 45 o 63 (71.4%) o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu eich cynnig cychwynnol, â 31 o’r rheini yn awgrymu trefniadau amgen a fyddai’n cynrychioli cysylltiadau diwylliannol, ieithyddol, a hanesyddol y rhanbarthau yn well. Mae gwrthodiad y Comisiwn o’r pryderon hyn yn sarhad ar y bobl a roddodd o’u hamser i ymgysylltu â’r broses ymgynghori.
Hefyd, ni ellir disgrifio cyfiawnhad y Comisiwn dros y paru, gan gyfeirio at “gysylltiadau ffordd rhesymol” rhwng yr ardaloedd, fel dim gwell na diffyg gwybodaeth llwyr am ansawdd ffyrdd yn yr ardal. Nid yw’r ffaith bod cysylltiadau ffordd rhwng Machynlleth a Dolgellau yn rheswm cymhellol o gwbl i greu etholaeth enfawr sy’n anwybyddu ffiniau a hunaniaethau naturiol y rhanbarthau. A dweud y gwir, caewyd yr A487 i’r gogledd o Fachynlleth yn ddiweddar oherwydd tirlithriad, a bydd yr A470 yn Nhalerddig ar gau am 3 mis oherwydd gwaith atgyweirio brys ar wal gynnal sydd wedi dymchwel rhwng Ionawr ac Ebrill 2025. Byddwn yn gwerthfawrogi esboniad o sut yr ydych wedi dod i’r casgliad bod y “cysylltiadau ffordd rhesymol” hyn rywsut yn well na’r ddwy bont sy’n cysylltu Ynys Môn â Gwynedd.
Roedd y Comisiwn hyd yn oed yn cyfaddef yn eu cynnig cychwynnol eu hunain nad yw’r etholaeth arfaethedig “yn ddelfrydol” - felly pam ydych chi’n parhau i wrthod ei mireinio neu ei newid? Mae eich cynnig presennol ar gyfer fy etholaeth yn llanast, anghenfil Frankenstein o etholaeth a fydd yn gwneud dim ond difreinio a dadrymuso’r bobl y mae i fod i’w cynrychioli. Mae Aberdaron i’r Ystod, ar ffordd, yn 101 milltir o bellter a bron i 3 awr o amser teithio.
Mae’r ystyriaeth o ddewisiadau paru amgen, fel cyfuno Dwyfor Meirionnydd â Cheredigion Preseli, a Maldwyn a Glyndŵr gyda Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe, yn ddynodiad eglur bod y Comisiwn yn teimlo bod y cynnig hwn yn ddiffygiol o’r cychwyn. Mae’r ffaith eich bod wedi dewis anwybyddu’r opsiynau amgen hyn a bwrw ymlaen â’r cynllun gwael hwn yn dangos diffyg gofal tuag at bobl yr etholaethau hyn. Byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn ailystyried yr opsiynau amgen ac yn cymryd golwg drylwyr ar ba un a ydynt yn fwy addas ai peidio, oherwydd pe baech chi’n gofyn i mi roi’r holl barau arfaethedig sydd ar gael ar gyfer DM a Glyndŵr yn eu trefn, byddai’r un yr ydych wedi ei gynnig ar hyn o bryd ar waelod y rhestr o ran addasrwydd.
Dylech fynd yn ôl i’r cychwyn ac ailfeddwl, gan gymryd pryderon ac awgrymiadau’r bobl a fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn i ystyriaeth. Byddai unrhyw beth yn llai yn fradychiad o ymddiriedaeth y cyhoedd. Mae pobl Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr yn haeddu gwell na’r cynnig hanner-pan hwn. Maen nhw’n haeddu etholaeth sy’n parchu eu hanghenion economaidd, trafnidiaeth, addysg a gofal iechyd, ynghyd â’u cysylltiadau diwylliannol, ieithyddol, a hanesyddol. Nid y cynnig ofnadwy hwn.
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.