Sylw DBCC-8410
Mae Plaid Lafur Etholaethol Merthyr Tudful ac Aberdâr yn cytuno â chynnig y Comisiwn i gyfuno etholaethau seneddol Merthyr Tudful ac Aberdâr a Phontypridd ar gyfer sedd newydd y Senedd. Mae daearyddiaeth, seilwaith a diwylliant cyffredin i gyd yn addas ar gyfer uno’r seddi hyn, tra’n cael yr effaith ychwanegol o aduno hen sedd Cwm Cynon, a rannwyd gan y newidiadau diweddaraf i ffiniau seneddol.
Fodd bynnag, hoffai’r Blaid Lafur Etholaethol wneud un awgrym i’r cynigion diweddaraf. Yn dilyn ymgynghoriad, hoffai’r Blaid Lafur Etholaethol gynnig bod yr enw llawn 'Merthyr Tudful' yn cael ei adlewyrchu yn nrafft y Comisiwn.
Mae paragraff 10.5 y cynigion diwygiedig yn datgan: “Mae’r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Merthyr Cynon Taf ar gyfer yr etholaeth hon. Mae’r Comisiwn o’r farn bod yr enw’n dderbyniol i’w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enwau’r ddau awdurdod lleol yn yr etholaeth arfaethedig a’i fod yn debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.”
Mae’r Blaid Lafur Etholaethol yn teimlo y dylai’r enw llawn 'Merthyr Tudful' gael ei ddefnyddio i adlewyrchu’r arwyddocâd hanesyddol sy’n sail i’r enw. Mae’n dyddio o 480 AD pan laddwyd Tudful, merch Brenin Brychan Brycheiniog ym Merthyr gan baganiaid. Ceir pum cymuned arall â ‘Merthyr’ yn eu henwau hefyd - Merthyr Mawr (Pen-y-bont ar Ogwr), Merthyr Cynog (Powys) a Merthyr Dyfan (y Barri). Enw’r pedwerydd, yn syml, yw Merthyr, pentref bach yn Sir Gaerfyrddin. Ac mae’r pumed ym Merthyr Tudful ei hun - Merthyr Vale (Ynysowen yn Gymraeg). Merthyr Tudful Cynon Taf fyddai fersiwn Gymraeg yr etholaeth newydd. Hefyd, byddai hyn yn osgoi’r dryswch posibl ynghylch y tebygrwydd rhwng MCT a RhCT (Rhondda Cynon Taf), sydd eisoes yn achosi cryn ddryswch o fewn RhCT. Hefyd, mae teitl pedwar gair eisoes wedi’i gynnig ar gyfer ein hetholaeth gyfagos, Blaenau Gwent Caerffili Rhymni.
Mae’r Blaid Lafur Etholaethau yn derbyn adfer yr enw 'Cynon' ac yn credu, er y gallai etholaeth seneddol Pontypridd gael ei hadlewyrchu’n well gan yr enw 'Taf', na ddylai Plaid Lafur Etholaethol Merthyr Tudful ac Aberdâr gyflwyno awgrym yn ymwneud ag etholaeth seneddol arall.
Math o ymatebwr
Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)
Enw sefydliad
Merthyr Tydfil and Aberdare Constituency Labour Party
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.