Sylw DBCC-8411
ADOLYGIAD 2026 O ETHOLAETHAU’R SENEDD
Ymateb Ymgynghori - Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Mewn ymateb i ymarfer ymgynghori’r Comisiwn ynghylch eu cynigion diwygiedig a gyhoeddwyd ar 17 Rhagfyr 2024, cyflwynir yr ymateb canlynol i’w ystyried.
Mae pedwar prif grŵp gwleidyddol y Cyngor wedi cytuno ar y sylwadau a amlinellir isod ynghylch yr etholaethau Senedd newydd arfaethedig cyn dyddiad terfyn cyflwyno’r Comisiwn ar 13 Ionawr 2025.
Y parau o etholaethau Senedd penodol sy’n berthnasol i’r awdurdod lleol hwn yw:
• Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr
wedi’i hailenwi’n Afan Ogwr Rhondda
• Brycheiniog, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe
wedi’i hailenwi’n De Powys Tawe Nedd - South Powys Tawe Neath
Nid oes gan y grwpiau gwleidyddol unrhyw sylwadau pellach am y cynigion diwygiedig sydd heb eu newid a gyhoeddwyd gan y Comisiwn.
Y cwbl yr oedd yr Aelodau yn dymuno ei wneud oedd ailadrodd eu pryder ynghylch yr haenau ychwanegol o gymhlethdod y bydd cynrychiolwyr sydd newydd eu hethol yn eu hwynebu wrth eirioli dros etholwyr ar draws prif gynghorau, byrddau iechyd, heddluoedd a gwasanaethau achub lluosog.
Ceir dealltwriaeth dda o’r ffaith fod cylch gwaith y Comisiwn o ran cynnal yr adolygiad presennol o etholaethau Senedd 2026 yn eithriadol o gyfyngedig a allai gyfyngu ar y gallu i gynnig parau cyfuniad amgen.
Serch hynny, mae’r grwpiau gwleidyddol yn dal i fod yn gadarn yn eu safbwynt bod yn rhaid i’r Comisiwn, cyn gynted â phosibl a lle rhoddir mwy o hyblygrwydd, adolygu’r cynigion diwygiedig presennol ymhellach fel mater o frys a cheisio cyflwyno ffiniau etholaeth sy’n adlewyrchu’n well y cymunedau hirsefydlog a’r cysylltiadau cymunedol y maent yn awgrymu eu bod yn eu cynrychioli.
Gofynnir i’r Comisiwn roi ystyriaeth lawn hefyd i’r holl effeithiau hyn nawr ac yn ystod adolygiadau yn y dyfodol.
Sylwadau ar enwi a dynodiadau etholaethau’r Senedd:
Cyflwynir y sylwadau canlynol ynghylch enwi a dynodiad etholaethau’r Senedd.
Aberafan Maesteg, Rhondda ac Ogwr
wedi’i hailenwi’n Afan Ogwr Rhondda
O ran enw’r etholaeth arfaethedig Afan Ogwr Rhondda Senedd, cynigir cefnogaeth betrus i’r dull sy’n cael ei fabwysiadu gan y Comisiwn o ddefnyddio confensiwn enwi unwaith wedi’i grynhoi. Teimlir ei bod yn debygol y byddai cymunedau lleol yn gallu adnabod yr enw yn eglur.
Brycheiniog, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe wedi’i hailenwi’n De Powys Tawe Nedd - South Powys Tawe Neath
O ran etholaeth arfaethedig De Powys Tawe Nedd - South Powys Tawe Neath, awgrymir y teitl amgen arfaethedig:
Nedd Tawe De Powys - Neath Tawe South Powys
Mae’r grwpiau gwleidyddol o’r farn gref y dylid rhoi teitl yr etholaeth mewn trefn sy’n adlewyrchu ardaloedd yr etholaeth â’r gyfran fwyaf o’r etholaeth.
Ardaloedd Castell-nedd a Dwyrain Abertawe fyddai’r rhain o bell ffordd, ag etholaeth gyfunol fras ychydig o dan 85,000, o’i gymharu ag etholaeth o tua 55,000 yn ardal De Powys. Gwahaniaeth o tua 30,000 o etholwyr.
Yn seiliedig ar gymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg i’r orgraff, byddai’r grwpiau gwleidyddol yn cefnogi’r defnydd o enwau’r prif afonydd ‘Nedd’ a ‘Tawe’ yn rhan o’r Etholaeth Senedd ddiwygiedig yn ardaloedd Castell-nedd a Dwyrain Abertawe.
Math o ymatebwr
Ar ran awdurdod lleol
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.