Sylw DBCC-8413
Gweler y sylwadau gan gyd-gynghorwyr.
Rydym yn teimlo ei bod yn briodol bod ffiniau presennol yr etholaethau yn aros fel y maent.
Hoffwn fynegi fy anfodlonrwydd ynghylch y newidiadau arfaethedig i'r ffiniau.
Yn gyntaf, fel Cynghorydd Tref ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, rwy'n teimlo'n siomedig y byddai'r Senedd yn dileu enw hanesyddol Brycheiniog a Sir Faesyfed yn gyfan gwbl ac yn hepgor unrhyw gyfeiriad at ein hardal. Roedd Sir Frycheiniog a Phowys yn deyrnasoedd gelyniaethus yn hanesyddol, ac er bod Sir Frycheiniog yn rhan o Sir Powys bellach, mae'r ffaith fod y Senedd wedi penderfynu dileu enw Brycheiniog / Sir Frycheiniog yn gyfan gwbl fel un o etholaethau'r Senedd yn siomedig ac yn dangos diffyg parch at ein hunaniaeth.
Yn ail, mae Brycheiniog a Sir Faesyfed yn etholaeth wledig ac amaethyddol yn hanesyddol. Mae'r penderfyniad i newid ein hetholaeth wledig ac amaethyddol i greu etholaeth sydd bellach yn ffinio â'r môr yn ymddangos yn rhyfedd. Mae hunaniaeth y cymunedau a'r bobl yn yr etholaeth arfaethedig newydd yn wahanol iawn. Hefyd, mae maint enfawr yr etholaeth yn frawychus. Mae hi mor fawr nes bod y pellter o deithio o waelod yr etholaeth i'r rhan uchaf yn debyg i mi’n gadael fy nhŷ yn Sir Frycheiniog ac yn cyrraedd yn Rhydychen. Mae'r gymuned yn Rhydychen yn wahanol iawn i'r un yn Sir Frycheiniog, ac yn yr un modd mae'r gymuned ym mlerdwf trefol Dwyrain Abertawe a'i harfordir yn wahanol iawn i fy nghymuned yn Sir Frycheiniog.
Cofion cynnes
Y Cynghorydd Adam Brown
Fodd bynnag, mae'n ymestyn yr holl ffordd i Ddwyrain Abertawe. Efallai y bydd yn creu nifer gyfartal o bleidleiswyr, ond mae'n cymysgu cymunedau gwahanol iawn.
Math o ymatebwr
Ar ran Cyngor Cymuned/Tref
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.