Sylw DBCC-8416
Roedd y cynigion gwreiddiol yn yr adolygiad o ffiniau yn 2023 ar gyfer etholaethau newydd y Senedd ar gyfer Caerdydd yn synhwyrol iawn. Felly, mae'r newid a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024 yn anffodus.
Mae mynd ati’n ddiangen i greu etholaeth estynedig yn anwybyddu'r ffiniau naturiol sy'n bodoli yn y brifddinas. Mae Afon Taf, ynghyd â thelerau rhoi tir i Ddinas Caerdydd gan Ystad Bute, yn cyfyngu'n sylweddol ar brosesau cyfathrebu yn y ddinas. Ar wahân i ardal y Bae ei hun, mae'r unig ffyrdd sy'n croesi Afon Taf i'r gogledd o ganol y ddinas wedi'u lleoli ar Rodfa'r Gorllewin, yng Ngogledd Llandaf ac wrth adael yr A470 am Radur. O ganlyniad, mae'r ardaloedd i'r dwyrain o'r afon yn cynnwys màs poblogaeth naturiol sydd â chysylltiadau da. I'r de o'r ddinas, mae'r ardaloedd diwydiannol a masnachol o amgylch y dociau a'r Bae yn creu rhwystr arall i gyfagosrwydd cymunedau.
Yn ogystal, yn hanesyddol, roedd y broses o ddatblygu ystadau tai cyn ac ar ôl y rhyfel yng ngorllewin y ddinas wedi arwain at lawer o bobl yn ardaloedd Grangetown a dociau'r gorllewin yn cael eu hailgartrefu yn Nhrelái, Caerau, Pentre-baen a'r Tyllgoed. Roedd y bobl hyn yn uniaethu'n naturiol, ac yn cadw mewn cysylltiad â'r ardaloedd roedden nhw wedi dod ohonynt. Yn ychwanegol, datblygodd y cymunedau hyn berthynas naturiol â chefnwlad orllewinol y ddinas ym Mhenarth a Bro Morgannwg. Roedd sefyllfa ddemograffig debyg ar waith yn nwyrain y ddinas gydag ystadau tai Tredelerch, Llanrhymni ac, yn ddiweddarach, Trowbridge a Llaneirwg.
Awgrymodd adroddiad ym mis Rhagfyr 2024 fod hepgor ward Cathays o etholaeth seneddol newydd Dwyrain Caerdydd yn ffactor arwyddocaol wrth gysylltu'r ward ag etholaeth De Caerdydd a Phenarth. Mae hyn yn ddibwys o'i gymharu â'r materion daearyddol a demograffig ehangach a amlinellir uchod, yn enwedig o ystyried y boblogaeth sylweddol o fyfyrwyr sy'n byw dros dro yn Ward Cathays.
Rydym yn dadlau'n gryf bod angen dychwelyd i'r cynnig gwreiddiol i gysylltu De Caerdydd a Phenarth gyda Gorllewin Caerdydd, a Dwyrain Caerdydd gyda Gogledd Caerdydd.
Math o ymatebwr
Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)
Enw sefydliad
Plaid Cymru - Pwyllgor Etholaeth Dwyrain Caerdydd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.