Sylw DBCC-8417
Hoffwn gyflwyno sylw personol ar y cynigion a fydd hefyd yn cael eu cyflwyno gan Blaid Lafur Etholaeth Seneddol Merthyr Tudful ac Aberdâr, sy'n cael ei chadeirio gen i.
Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i ffin Etholaeth arfaethedig y Senedd, ond rwy'n anghytuno â pharagraff 10.5 o'r cynigion diwygiedig, sef:
“10.5 Mae'r Comisiwn yn cynnig yr enw unigol Merthyr Cynon Taf ar gyfer yr etholaeth hon. Mae'r Comisiwn wedi penderfynu bod yr enw yn dderbyniol i'w ddefnyddio fel enw unigol gan ei fod yn cynnwys enwau'r ddau awdurdod lleol yn yr etholaeth arfaethedig ac mae'n debygol o fod yn adnabyddadwy i breswylwyr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cytuno ag orgraff yr enw unigol.”
Rwy'n pryderu am y cynnig i ddefnyddio 'Merthyr' ac nid 'Merthyr Tudful' yn enw'r etholaeth arfaethedig.
Rwy'n siŵr bod y Comisiwn yn ymwybodol o arwyddocâd hanesyddol yr enw Merthyr Tudful. Mae'n dyddio o 480 OC pan gafodd Tudful, merch y Brenin Brychan o Frycheiniog, ei lladd ym Merthyr gan baganiaid.
Hyd y gwn i, mae yna bum cymuned arall sy'n cynnwys yr enw 'Merthyr' - Merthyr Mawr (Pen-y-bont ar Ogwr), Merthyr Cynog (Powys) a Merthyr Dyfan (Y Barri). Enw'r bedwaredd gymuned yw Merthyr, sef pentref bach yn Sir Gaerfyrddin. Ac mae'r bumed gymuned wedi'i lleoli ym Merthyr Tudful ei hun - Merthyr Vale (Ynysowen yn Gymraeg).
Gofynnaf felly i chi ailystyried yr enw hwn er mwyn cynnwys y gair Tudful. Fersiwn Gymraeg yr etholaeth newydd fyddai Merthyr Tudful Cynon Taf. Rwy'n dadlau na fyddai un gair ychwanegol yn y teitl yn ei wneud yn anodd ei ddarllen, a byddai'n osgoi'r dryswch posibl oherwydd y tebygrwydd rhwng MCT ac RCT! Yn ogystal, mae teitl pedwar gair eisoes wedi'i gynnig ar gyfer ein hetholaeth gyfagos, Blaenau Gwent Caerffili Rhymni.
Cofion cynnes
Math o ymatebwr
Aelod o'r cyhoedd
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.