Sylw DBCC-8427
Mae'r bwriad i ddefnyddio Cymraeg yn unig ar gyfer enwau'r etholaethau yn amlwg yn wahaniaethol. Gan mai dim ond 14% -18% o'r boblogaeth sy'n siarad Cymraeg, mae'r penderfyniad hwn yn un gwrthnysig. Ar ben hynny, mae'r ddwy iaith i fod i gael eu trin yn gyfartal, felly mae'n rhaid defnyddio'r Saesneg, nid Cymraeg yn unig.
Os mai dim ond un iaith sydd i gael ei defnyddio i ddisgrifio'r etholaethau, does bosibl mai'r Saesneg ddylai'r iaith honno fod?
Mae'r mwyafrif helaeth o drigolion yn yr etholaethau hyn yn siarad Saesneg yn unig, felly nid yw'n iawn defnyddio enwau Cymraeg yn unig ar gyfer yr etholaethau. Mae'r etholaethau sy'n cynnwys Caerffili, Casnewydd a Chaerdydd, er enghraifft, yn gymunedau Saesneg eu hiaith a dylid cydnabod y ffaith hon wrth enwi'r etholaethau hyn. Gan fod cyn lleied o bobl yn siarad Cymraeg, ni ddylai enwau etholaethau fod yn uniaith Gymraeg.
Bydd parhau รข'r penderfyniad hwn yn dangos awydd i wahaniaethu yn erbyn y mwyafrif llethol sy'n siarad Saesneg.
Er mwyn ailadrodd, os oes angen defnyddio un iaith yn unig, mae'n gwbl amlwg mai'r Saesneg ddylai'r iaith hon fod. Ond mae'n ymddangos na chafodd y dewis hwn ei ystyried erioed.
Ac os na roddwyd ystyriaeth erioed i ddefnyddio'r Saesneg yn unig ar gyfer y mwyafrif sy'n siarad Saesneg, yna ni ddylid byth rhoi ystyriaeth i ddefnyddio'r Gymraeg yn unig.
Math o ymatebwr
Cynghorydd lleol neu swyddog etholedig arall
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.