Sylw DBCC-8431
Hoffai Llafur Cymru ddiolch i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru am eu gwaith ar ffiniau'r Senedd ar gyfer 2026, ac am ddarparu cyfleoedd i bleidiau gwleidyddol ac eraill gyflwyno eu safbwyntiau drwy'r ddau ymgynghoriad.
Yn ein cyflwyniad i'r ymgynghoriad cychwynnol, nodwyd gennym ein bod yn gefnogol o'r holl gynigion cychwynnol ac eithrio'r trefniant yng Nghaerdydd. Mae gan y Cynigion Diwygiedig a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024 y parau o etholaethau yng Nghaerdydd y ffafriwyd gennym am y rhesymau a nodwyd yn ein cyflwyniad cyntaf. Fel y cyfryw, rydym yn llwyr gefnogi’r Cynigion Diwygiedig. Mae'r rhesymau dros hyn wedi'u nodi yn ein cyflwyniad ymgynghori cychwynnol ac rydym yn tynnu sylw'r Comisiwn at hynny, yn hytrach na nodi hynny eto am yr eildro.
Rydym yn nodi y bu newidiadau sylweddol i enwau arfaethedig yr etholaethau. Yn hytrach na gwneud cynigion ffurfiol ar gyfer enwau gan Lafur Cymru, rydym ar ddeall y bydd ASau Llafur Cymru, ASau Llafur y DU a Phleidiau Llafur Etholaethol (CLPs) yn cyflwyno cynigion ar gyfer enwi eu hardaloedd, a byddem yn annog y Comisiwn i ystyried y rheiny wrth bennu enwau'r etholaethau.
Hoffem ddiolch i'r Comisiwn unwaith eto am eu gwaith. Mae’r cyflwyniad hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Math o ymatebwr
Ar ran sefydliad (preifat neu gyhoeddus)
Enw sefydliad
Welsh Labour
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.