Sylw DBCC-8439
Hoffwn wneud sylwadau ar yr enwau arfaethedig ar gyfer Merthyr Cynon Taf.
Mae’r etholaeth arfaethedig yn cynnwys tair etholaeth bresennol yn y Senedd yn bennaf, sef Merthyr Tudful, Cwm Cynon a Phontypridd. Nid yw'n gwneud llawer o synnwyr i ddisodli Pontypridd gyda Thaf ac mae'r enw arfaethedig yn debyg iawn i enw Cyngor Rhondda Cynon Taf a allai arwain at ddryswch i'r cyhoedd.
Mae Pontypridd wedi bod yn etholaeth yn y Senedd ers 1999 ac yn San Steffan ers 1918 a bydd colli ei henw yn golled i hanes gwleidyddol yr ardal.
Mae gan yr etholaeth arfaethedig ddwy brif dref Merthyr a Phontypridd, ac mae’n gwneud synnwyr i’r ddwy o’r rhain gael eu cydnabod yn yr enw.
Mae'n rhyfedd i ddisodli Pontypridd gyda Taf a chadw Merthyr pan fydd y ddau yn Nyffryn Taf. Nid yw’r ardal i’r De-orllewin o’r etholaeth arfaethedig yn ardal ddaearyddol Merthyr Cynon na Chwm Taf, yn hytrach mae yng Nghwm Elái.
Enw arfaethedig Merthyr, Cynon, Pontypridd neu os yn mynd yn nhrefn yr wyddor Cynon, Merthyr, Pontypridd.
Teimla rhai trigolion yn gryf na ddylid cwtogi Merthyr Tudful i Ferthyr gan ddatgan y canlynol: Merthyr Tudful yw ei henw. Wedi'i henwi ar ôl y Brenin Brychan Brycheiniog ferch Sant Tudful. Ni fyddech yn derbyn y talfyriad o Pont-y-pridd i Ponty. Enwir afon Cynon ar ôl sant Cynon, ac mae cyn bwysiced â'r gweddill. Mae gan hanes ei le a dylid ei gofio. Cwm Cynon, Merthyr Tudful a Phontypridd.
Math o ymatebwr
Aelod o Senedd Cymru
Enw sefydliad
Plaid Cymru
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.