Sylw DBCC-8444
Annwyl Gyfeillion,
Gan gyfeirio at eich e-byst isod, mae'n siomedig na roddwyd estyniad i Gynghorau Tref a Chymuned ymateb, fel y mae'r e-bost gan gyd-glerc sydd wedi'i atodi yn ei gadarnhau. Mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle bu'n rhaid i mi ofyn am sylwadau gan aelodau trwy e-bost yn hytrach na rhoi cyfle i aelodau drafod ac ystyried y mater yn llawn mewn cyfarfod o'r Cyngor. Ar y sail hon, mae'r ymatebion a dderbyniwyd hyd yn hyn gan aelodau o Gyngor Cymuned Kinnerton Uchaf wedi'u nodi isod:
• Rwy'n teimlo bod y cynnig hwn yn gwneud y gorau o sefyllfa wael. Byddai cyfuno Alun a Glannau Dyfrdwy â Dwyrain Clwyd wedi arwain at greu etholaethau newydd enfawr, o safbwynt daearyddol, mewn lleoedd eraill.
• Nid oes gen i lawer o sylwadau i'w cynnig ac eithrio'r ffaith fod y cynnig i ehangu "Alun a Glannau Dyfrdwy" i "Fflint a Wrecsam" ond yn cynnwys hanner Sir y Fflint, gan symud hanner gogleddol y sir i Glwyd sy'n ymddangos yn hollol anghywir i mi. Rwy'n siŵr y bydd hanner Sir y Fflint yn teimlo'r un fath. Dylid naill ai gynnwys y sir gyfan yn y diwygiad arfaethedig neu, yn fwy priodol efallai, dylai Sir y Fflint gael ei chyfuno â Chlwyd - ardal y mae gan Sir y Fflint fwy yn gyffredin â hi na Wrecsam yn fy marn i. Rwy'n tybio nad yw'r ffiniau gweinyddol yn newid. Rhaid cyfaddef bod ceisio cywasgu 26 etholaeth i 16 yn unig wastad yn mynd i fod yn anodd, ond dwi ddim yn siŵr os yw'r cynllun hwn yn gywir.
• Rwyf wedi ceisio deall y newidiadau arfaethedig. Yn bersonol, byddai'n well gen i beidio â gweld Sir y Fflint yn cael ei pharu â Wrecsam, a hoffwn weld etholaethau’r Senedd Sir y Fflint yn cael eu paru fel un sir. Mae yna gyfeiriadau at newid "ffiniau" yn 2026, a gobeithio nad yw hyn yn golygu bod ein rhanbarth yn newid i fod yn Fflint a Wrecsam yn hytrach na Sir y Fflint. Eu cynllun yw cynyddu nifer y bobl yn y Senedd o 60 i 90 felly mae'n debyg y bydd yn costio arian i ni i gyd.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gydnabod eich bod wedi derbyn yr e-bost hwn a nodi ei fod wedi'i gyflwyno yn unol â'ch dyddiad cau.
Cofion gorau
Clerc Cyngor Cymuned Kinnerton Uchaf
I weld ein Polisi Preifatrwydd ewch i www.higherkinnerton.org.uk
Math o ymatebwr
Ar ran Cyngor Cymuned/Tref
Enw sefydliad
Higher Kinnerton Community Council
Mae'r sylw hwn yn cyfeirio at
Yr ardal gyfan yn cael ei harolygu.